Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-30-13:  Papur 1

 

GWYBODAETH GEFNDIR AM OFFERYNNAU STATUDOL GYDAG ADRODDIADAU CLIR

 

 

CLA334 - Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi hawl i Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) i 'sawl' pysgodfa (unigryw) am gregyn gleision (Mytilus edulis) mewn ardal sy'n tua 168.4 hectar ger Hafan Lydstep, Sir Benfro am gyfnod o 15 mlynedd yn dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.

 

CLA335 - Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) 2014

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 145B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ddileu'r cyfeiriadau at staff Archwilydd Cyffredinol Cymru.  Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio adran 68 o, ac Atodlen 3 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i newid y cyfeiriadau at Swyddfa Archwilio Cymru am gyfeiriadau at Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

CLA336 - Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae'r rhain yn sicrhau y caiff Rheoliadau'r Comisiwn 208/2013, 209/2013, 210/2013 a 211/2013, sy'n rheoli'r cyflenwad diogel o hadau egino a hadau i'w hegino, eu gorfodi yng Nghymru. 

Amcan y Rheoliadau yw sicrhau y caiff iechyd y cyhoedd ei ddiogelu drwy gyflwyno rheolaethau hylendid penodol ar gyfer egin a hadau ar gyfer y sector egino a sicrhau y cydymffurfir â hwy.